bluesky media design
Canghennau Yswiriant Antur
Argymell Ffrind
  Canghennau
  Caerfyrddin
  Rhydaman
  Aberteifi
  Abertawe
  Abergwaun
  Hwlffordd
  Cysylltwch â Ni
 

FSA
Mae Gwasanaethau Yswiriant Antur Cyf yn cael ei awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Yswiriant Modur
Yswiriant Teithio
Yswiriant Eiddo Perchnogion
Yswiriant Cartref
Yswiriant Masnachol

Telerau


1) Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) - FSA yw’r goruchwyliwr annibynnol sy’n rheoleiddio gwasanaethau ariannol. Mae’n mynnu ein bod yn rhoi’r ddogfen hon ichi.
Defnyddiwch y ddogfen hon i benderfynu a yw ein gwasanaethau yn addas i chi.

2) Pwy sy’n ein rheoleiddio? –Cawn ein hawdurdodi a’n rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Ein rhif cofrestru FSA yw 303899. Y busnes a ganiateir inni yw:

  • Cynghori cwsmeriaid ar gontractau di- fuddsoddiad
  • Trefnu (achosi) bargenion mewn contractau yswiriant di-fuddsoddiad
  • Gwneud trefniadau o ran trafodion mewn contract yswiriant di-fuddsoddiad
  • Ymdrin fel asiant mewn contractau yswiriant di-fuddsoddiad
  • Cynorthwyo yn gweinyddu a pherfformio contract yswiriant di-fuddsoddiad

Gallwch sicrhau’r uchod ar gofrestr FSA drwy fynd i’w gwefan www.fsa.gov.uk/register neu gysylltu â nhw ar 0845 606 1234

3) Ein Gwasanaeth – Gweithredwn fel Brocer Annibynnol ar eich rhan ac mae ein gwasanaeth yn cynnwys rhoi cyngor ichi am eich anghenion yswiriant, trefnu eich yswiriant gydag yswirwyr i fodloni eich gofynion a’ch helpu gydag unrhyw newidiadau parhaus y mae’n rhaid ichi eu gwneud. Byddwn hefyd yn cynorthwyo gyda hawlio o dan eich polisi.

4) Cynnyrch a gynigiwn – Rydym yn gwerthu ac yn cynghori ar ystod eang o gynnyrch yswiriant personol a masnachol ac yn rhoi cyngor neu wybodaeth ar sail dadansoddiad teg o’r farchnad o ystod eang o yswirwyr. Ar gyfer yswiriant Budd-daliadau Cyfreithiol Cartref rydym yn ymdrin yn gyfan gwbl â DAS Legal Expenses Insurance Ltd.

Ar gyfer yswiriant Budd-daliadau Cyfreithiol Masnachol rydym yn ymdrin yn gyfan gwbl â DAS Legal Expenses Insurance Ltd.

5) Ein Costau – Fel arfer, codwn y costau canlynol i dalu am weinyddu eich yswiriant:

Trefnu polisïau ac adnewyddiadau adwerthu newydd

£10.00

Trefnu polisïau ac adnewyddiadau masnachol newydd

£20.00

Addasiadau canol tymor, dogfennau amnewid a dyblyg

£10.00

Diddymiadau

£10.00
a chadw comisiwn

Byddwch bob amser yn cael gwybod am swm a diben penodol unrhyw gostau ychwanegol ymlaen llaw. Ar gyfer premiymau adenillion (sy’n codi fel arfer os yw risg yswiriant yn lleihau neu os caiff y polisi ei ddiddymu), rydym yn ad-dalu comisiwn ar yr ad-daliad i’ch yswiriwr a bydd y swm hwn yn cael ei ddidynnu o swm terfynol eich ad-daliad.

6) Premiymau ac Agweddau Ariannol - Er mwyn cynnig cyfleusterau credyd ichi, rydym wedi cofrestru o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr a’n Rhif Trwydded yw 505394. Mae premiymau yswiriant yn ddyledus ar ddechrau’r polisi ac rydym fel arfer yn derbyn taliad drwy siec warantedig, arian neu unrhyw un o’r cardiau debyd/credyd mawr.

Efallai y gallwch ledaenu eich taliadau drwy gynlluniau rhandaliad yswirwyr neu gynllun credyd rydym wedi’i drefnu gyda darparwr cyllid trydydd parti. Byddwn yn rhoi gwybodaeth lawn ichi am eich opsiynau talu a manylion y llog sy’n daladwy pan fyddwn yn trafod eich yswiriant yn fanwl.

Ar gyfer mathau penodol o yswiriant gallwn ofyn ichi lofnodi ffurflen yn rhoi awdurdod inni gadw dogfennau fel Tystysgrifau Modur hyd nes ceir taliad llawn. Yn yr amgylchiadau hyn byddwn yn rhoi unrhyw ddogfennau ichi y mae’r gyfraith yn mynnu eu bod gennych.

Ar gyfer rhai mathau o yswiriant, gallwn roi busnes gydag Yswirwyr drwy gyfryngwr arall a awdurdodir gan FSA ac yn yr amgylchiadau hyn caiff premiymau eu trosglwyddo i’r cyfryngwr hwnnw. Cewch wybod os bydd hyn yn effeithio ar eich yswiriant eich hun.
Bydd unrhyw log a enillir ar arian cleient sy’n cael ei ddal gennym ni ac unrhyw adenillion buddsoddiad ar unrhyw fuddsoddiadau dynodedig ar wahân yn cael eu cadw gennym ni at eich defnydd chi eich hun, yn hytrach na chael eu talu ichi.

O dan delerau ein cyfrif banc cleient (a sefydlwyd yn unol â rheolau llym a osodwyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol), mae gofyn inni roi gwybod ichi y gallem ddefnyddio eich premiwm unigol i setlo premiymau sy’n ddyledus o dan bolisïau eraill (gan gynnwys y rheini sy’n daladwy gan gleientiaid eraill).

Nyni yw’r Asiant Yswirwyr at ddiben casglu premiymau.

7) Dyfynbrisiau - Mae cyfraddau a thelerau yswirwyr yn newid o hyd. Mae premiwm a thelerau unrhyw ddyfynbris a rown yn ddilys am 14 diwrnod yn unig oni nodwn fel arall.

8) Hawliau Diddymu – Mae gan Gwsmeriaid Adwerthu hawl i gyfnod myfyrio er mwyn iddynt benderfynu parhau gydag yswiriant newydd neu beidio. Mae’r cyfnod diddymu hwn yn para 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r yswiriant yn dechrau neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod rydych yn derbyn dogfennaeth y polisi.

I ddiddymu’r yswiriant yn y cyfnod diddymu, mae’n rhaid ichi gadarnhau eich cais inni yn ysgrifenedig a dychwelyd unrhyw ddogfennau a ddanfonwyd gennym. Bydd yr yswiriwr yn codi tâl arnoch am yr yswiriant a ddarparwyd a bydd balans unrhyw bremiwm a dalwyd yn cael ei ad-dalu ichi [heb ein comisiwn ar yr ad-daliad a’n ffi diddymiad canol tymor - gweler "Ein Costau" uchod].

Mae’r rhan fwyaf o yswirwyr yn codi cyfraddau Cyfnod Byr uwch na chost pro rata gaeth os caiff y polisi ei ddiddymu yn ei 12 mis cyntaf. Os yw polisi wedi dioddef hawliad ers ei ddechrau neu ei adnewyddu efallai na fydd unrhyw bremiwm adenillion yn daladwy. Os cyhoeddir polisi ar sail Lleiafswm a Blaendal ni fydd unrhyw bremiwm adenillion yn daladwy os caiff y polisi ei ddiddymu.

9) Datgeliad – Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth gyflawn a chywir i yswirwyr pan fyddwch yn dechrau eich polisi yswiriant, drwy gydol eich polisi, a phan fyddwch yn adnewyddu eich yswiriant. Os byddwch yn methu datgelu gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch yswiriant, neu os bydd unrhyw anghywirdebau yn y wybodaeth a roddwyd, gallai eich yswiriant fod yn annilys neu efallai na fydd yr yswiriant yn gwbl weithredol.

Mae’n bwysig ichi sicrhau bod pob datganiad a wnewch ar ffurflenni cynnig, ffurflenni hawlio a dogfennau eraill yn llawn ac yn gywir. Os yw ffurflen yn cael ei llenwi ar eich rhan, dylech sicrhau bod yr atebion a ddangosir i unrhyw gwestiynau yn wir ac yn gywir cyn ichi lofnodi’r ddogfen.

Fe’ch atgoffir ei bod yn drosedd o dan y Ddeddf Traffig Ffyrdd gwneud unrhyw ddatganiad anghywir neu gadw unrhyw wybodaeth berthnasol yn ôl er mwyn cael Tystysgrif Yswiriant.
Fe’ch cynghorir i gadw copïau o unrhyw ohebiaeth a anfonwch atom ni neu’n uniongyrchol at eich yswiriwr.

Os ydych yn ansicr o gwbl a yw unrhyw wybodaeth yn berthnasol, dylech ei datgelu. .

10) Telerau ac Amodau a Gwarantau Polisi - Dylech ddarllen drwy’r holl delerau, amodau ac unrhyw warantau a ddangosir yn eich dogfennau polisi i sicrhau eich bod yn eu deall ac yn gallu cydymffurfio â’u gofynion. Rhowch wybod inni ar unwaith os nad ydych yn gallu cydymffurfio ag unrhyw delerau, amodau neu warantau yn eich polisi oherwydd gallai unrhyw achos o dorri’r rhain roi’r hawl i’ch yswiriwr derfynu eich polisi o’r dyddiad torri a/neu ddiarddel hawliad o dan eich polisi.

11) Adnewyddiadau - Byddwn yn cysylltu â chi mewn da bryd cyn adnewyddu eich polisi.
Os yw eich premiwm yn cael ei dalu drwy ddebyd uniongyrchol naill ai i’r yswiriwr neu ddarparwr cyllid trydydd parti ac nid ydych wedi cysylltu â ni erbyn dyddiad adnewyddu eich polisi, byddwn yn ei adnewyddu’n awtomatig ar eich rhan gan ddefnyddio’r un trefniant debyd uniongyrchol. Cewch wybod yn uniongyrchol am eich taliadau newydd gan yr yswiriwr neu’r darparwr cyllid. Nid oes angen ichi wneud unrhyw beth yn yr amgylchiadau hyn a bydd eich dogfennau newydd yn cael eu hanfon atoch yn awtomatig.

Os nad ydych eisiau adnewyddu’r polisi, rhowch wybod inni ar unwaith a chanslo unrhyw gyfarwyddyd debyd uniongyrchol i’ch banc. Dylai unrhyw ddogfennau a gyhoeddir gennym o ran y cyfnod yswiriant newydd gael eu dychwelyd inni ar unwaith.

12) Hawliadau – Nid oes gennym unrhyw awdurdod i ymdrin â hawliadau ar ran yswirwyr, ond mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod inni ar unwaith am bob digwyddiad a allai arwain at hawliad o dan eich polisi yswiriant ni waeth a ydych chi’n credu eich bod yn atebol. Mae’n rhaid ichi drosglwyddo unrhyw lythyr neu hawliad a gewch ar unwaith i ni. .

Pan gawn wybod am ddigwyddiad a allai achosi hawliad o dan eich polisi, byddwn yn rhoi gwybod i’r yswirwyr yn ddi-oed ac, o dan unrhyw amgylchiadau, ymhen tri diwrnod gwaith.

Byddwn yn eich cynghori’n syth am ofynion yswirwyr o ran hawliadau, gan gynnwys darparu gwybodaeth, cyn gynted â phosibl, sydd ei hangen i sefydlu natur a graddau’r golled. Ni ddylech gyfaddef eich bod yn atebol na chytuno i unrhyw gwrs gweithredu, heblaw camau brys i leihau eich colled, nes ichi gael cytundeb gan eich yswiriwr.

Byddwn yn anfon atoch unrhyw daliadau a geir gan yswirwyr, o ran unrhyw hawliad, heb oedi. Byddwn yn rhoi gwybod ichi am unrhyw gais am wybodaeth a gawn gan eich yswirwyr.

13) Cwynion – Ein bwriad yw darparu lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid ichi drwy’r amser. Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth a ddarparwn ar unrhyw adeg, mae gennym weithdrefn gwyno ffurfiol. Dylech felly gymryd y camau canlynol: Yn y lle cyntaf, dylech drafod eich cwyn â’r aelod o staff y buoch yn ymdrin ag ef.

Os byddwch yn anfodlon o hyd, ysgrifennwch at Wasanaethau Yswiriant Antur Cyf yn
13 Stryd y Frenhines, Caerfyrddin SA31 1JT neu ein ffonio ar 01267 232544.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ymhen 5 diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod ichi pwy sy’n cynnal yr archwiliad i’r materion rydych wedi’u codi. Byddwn yn rhoi ymateb ffurfiol ymhen 20 diwrnod gwaith o gael y gŵyn yn y lle cyntaf. Os nad oes modd datrys y gŵyn ymhen yr amser hwn, byddwn yn egluro pam ac yn nodi’r amserlen debygol ar gyfer ei datrys.

Os na allwn setlo eich cwyn, efallai y caiff ei chyfeirio at y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol. Rhown wybod ichi os gallwch gyfeirio unrhyw gwynion at yr Ombwdsmon Ariannol. Os yw eich cwyn yn gysylltiedig â’r gwasanaeth a ddarparwyd gan eich yswiriwr, dylech ysgrifennu at Brif Weithredwr y cwmni fel y nodir yn eich dogfen bolisi.

14) Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS) – Fe’n diogelir gan FSCS. Fe allech hawlio iawndal gan y cynllun os na allwn fodloni eich rhwymedigaethau. Mae hyn yn dibynnu ar y math o fusnes ac amgylchiadau’r hawliad. Mae cynghori a threfnu yswiriant yn cael ei gynnwys am 100% o’r £2000 cyntaf a 90% o weddill yr hawliad, heb unrhyw derfyn uchaf. Ar gyfer dosbarthiadau gorfodol o yswiriant, mae cynghori a threfnu yswiriant yn cael ei gynnwys am 100% o’r hawliad, heb unrhyw derfyn uchaf. Mae gwybodaeth bellach am drefniadau’r cynllun digolledu ar gael gan FSCS.

15) Cyfrinachedd – Caiff yr holl wybodaeth bersonol am ein cwsmeriaid ei thrin yn Breifat a Chyfrinachol. Dim ond wrth drefnu a gweinyddu eu hyswiriant fel arfer y byddwn yn datgelu’r wybodaeth sydd gennym am unigolion preifat ac ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i unrhyw un arall heb eu caniatâd ysgrifenedig oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu fudd cyhoeddus. Cawn drosglwyddo gwybodaeth amdanoch i asiantaethau cyfeirio credyd at ddiben trefnu cyllid premiwm a chawn hefyd drosglwyddo iddynt fanylion eich record talu gyda ni.

Cawn ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennym am ein cwsmeriaid i roi gwybodaeth iddynt am gynnyrch a gwasanaethau eraill y credwn y gallent fod yn briodol iddynt.

O dan Ddeddf Diogelu Data 1988, mae gan gwsmeriaid preifat yr hawl i weld y wybodaeth bersonol amdanynt sydd gennym yn ein cofnodion. Os hoffech arfer yr hawl hwn, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltiedig eraill, dylech ysgrifennu at Wasanaethau Yswiriant Antur Cyf.

16) Cofrestr Cyfnewid Hawliadau a Thanysgrifennu a Chofrestr Atal Twyll Yswiriant Modur - Mae yswirwyr yn rhoi gwybodaeth i’r Gofrestr Cyfnewid Hawliadau a Thanysgrifennu a weithredir gan Database Services Ltd a’r Gofrestr Atal Twyll Yswiriant Modur sy’n cael ei llunio gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain.

Yr amcan yw gwirio gwybodaeth a ddarperir ac atal hawliadau twyllodrus. Ychwanegir manylion yswiriant modur hefyd at y Gronfa Ddata Yswiriant Modur a weithredir gan y Ganolfan Wybodaeth Yswiriant Modur (MIIC) a ffurfiwyd i helpu i nodi gyrwyr heb yswiriant ac sydd ar gael i’r Heddlu i helpu i gadarnhau pwy sydd wedi’u hyswirio i yrru. Os bydd damwain, gall Yswirwyr, MIIC a’r Ganolfan Yswiriant Modur ddefnyddio’r gronfa ddata hon i nodi gwybodaeth polisi berthnasol. Efallai y caiff cronfeydd data eraill cysylltiedig ag yswiriant eu hychwanegu yn y dyfodol.

17) Cyfraith Berthnasol - Mae’r ddogfen Telerau Busnes hon yn atebol i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

 

Yn ôl i’r brig


0845 3006455
Yswiriant ar eich cyfer chi
www.yswiriantantur.co.uk
www.anturgroup.co.uk
Cael Dyfynbris