bluesky media design
Canghennau Yswiriant Antur
Argymell Ffrind
  Canghennau
  Caerfyrddin
  Rhydaman
  Aberteifi
  Abertawe
  Abergwaun
  Hwlffordd
  Cysylltwch â Ni
 

FSA
Mae Gwasanaethau Yswiriant Antur Cyf yn cael ei awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Yswiriant Modur
Yswiriant Teithio
Yswiriant Eiddo Perchnogion
Yswiriant Cartref
Yswiriant Masnachol

Yswiriant Antur Newyddion

Yswiriant Antur Newyddion

Mae Wally Evans, yr Adran Fasnachol, Antur Abergwaun, wedi penderfynu ymddeol ar 3 Awst 2007 ar ôl gweithio ym maes yswiriant am 45 mlynedd.


Dechreuodd Wally gydag Yswiriant Dyfed ym mis Hydref 1992 ac ers hynny bu’n cynorthwyo Chris Noott, cyn-berchennog Yswiriant Dyfed, gyda busnes masnachol. Daeth Yswiriant Dyfed yn rhan o Yswiriant Antur ar 1 Mehefin 2007.




Mae Wally Evans, yr Adran Fasnachol, Antur Abergwaun, wedi penderfynu ymddeol ar 3 Awst 2007 ar ôl gweithio ym maes yswiriant am 45 mlynedd.

Ar ôl gadael yr ysgol ym 1962 dechreuodd Wally ei yrfa gyda chwmni yswiriant NEM yng Nghaerdydd. Daeth yn arolygydd ar gyfer Sir Fynwy ym 1972 ac ym 1976 fe’i trosglwyddwyd yn Rheolwr Lleol i swyddfa NEM yn Sir Benfro.

 

Ar ôl ad-drefnu ym 1984, derbyniodd Wally ddiswyddiad ac arhosodd yn Sir Benfro a gweithio gyda chwmni o froceriaid lleol yn Aberdaugleddau.

 

Daeth NEM ar ei ôl unwaith eto ac ailymunodd â’r Cwmni yn Uwch Warantydd Eiddo yn ei swyddfa Rhanbarth De Lloegr yn Swindon ac aros yno hyd nes 1992 pan ymunodd ag Yswiriant Dyfed.

 

Mae’n edrych ymlaen at ymddeol ac yn gobeithio y gall roi mwy o amser i’w ddiddordebau sef canu mewn côr a’i ardd yn ogystal â threulio mwy o amser gyda’i wraig Ann yn ymweld â’u mab a’i deulu yn Geneva a’u mab ieuengach yn Leeds. 

 

Bu Wally yn ymdrin yn bersonol â llawer o gleientiaid masnachol yn yr ardal ac mae Michael N Charlton, Optegydd yn Abergwaun yn ddiolchgar i Wally am ymdrin â’i yswiriant oherwydd dywed y bu Wally bob amser yn broffesiynol wrth gynghori, ac yn gymwynasgar, dymunol ac effeithlon.

 

 

Antur yn penodi Gareth Thomas yn rheolwr Uned Busnesau Bach


Mae Yswiriant Antur wedi penodi Gareth Thomas yn Rheolwr ei Uned Busnesau Bach yn Abertawe. Yn ei swydd newydd bydd Gareth yn gyfrifol am gynyddu nifer y busnesau sy’n mynd drwy’r Uned hon gan fod Antur yn disgwyl i’r maes hwn o’r busnes ffynnu o ganlyniad i’w gyfraddau a’i gynnyrch arbennig sydd eisoes ar gael gydag yswirwyr fel NU, NIG ac AXA.

Mae Gareth yn ymuno ag Antur o Frocer yn Abertawe, Murton Alexander, lle bu’n Weithredwr Yswiriant llinellau Masnachol/ Personol. Yn y gorffennol, bu Gareth hefyd yn gweithio i Hill House Hammond a Cunningham Lindsey Loss Adjusters ac mae ganddo dros 8 mlynedd o brofiad yn y diwydiant.


Antur yn penodi Gareth Thomas yn rheolwr Uned Busnesau Bach
 

Yswiriant Antur yn prynu Yswiriant Dyfed


Ychydig o dan dri deg pum mlynedd yn ôl, penderfynodd Chris Noott, mewn cydweithrediad â chwmni lleol o gyfrifyddion (Pritchard Griffiths a’r Cwmni - sef Pritchard a’i Gwmni erbyn hyn) ddechrau Broceriaid Yswiriant Dyfed. Bryd hynny, roedd eu swyddfeydd yn Stryd Hamilton.

 

Ym 1975 prynodd Chris Noott gyfranddaliadau’r cyfrifyddion ac ers hynny bu’n unig berchennog y busnes. Dros y blynyddoedd, mae’r busnes wedi tyfu’n sylweddol a chyda staff ffyddlon iawn, a fu gyda’r practis ers sawl blwyddyn, bu’n llwyddiannus iawn.                                             



Yswiriant Antur yn prynu Yswiriant Dyfed

Cafodd Chris Noott ei ben-blwydd yn drigain oed y llynedd a phenderfynodd yn y flwyddyn newydd ei bod efallai’n bryd ymddeol yn rhannol o leiaf. Ar ôl i frocer cenedlaethol mawr ddod ato, mae wedi penderfynu uno ei bractis â broceriaeth yswiriant yng Ngorllewin Cymru sydd wedi uno dros y pump neu chwe blynedd diwethaf â sawl broceriaeth arall i ffurfio uned sylweddol yn y Dywysogaeth.

 

Pan gafodd ei holi, dywedodd Chris Noott ei fod eisiau sicrhau bod ei bractis yn aros mewn dwylo da ac roedd yn teimlo efallai na fyddai brocer cenedlaethol yn uniaethu cymaint â’r bobl leol a’u gofynion. O ganlyniad, penderfynodd ddewis y Cwmni lleol, Gwasanaethau Yswiriant Antur Cyfyngedig.                                        

 

"Rwy’n teimlo y bydd yr uno hwn yn llesol iawn i’n holl gwsmeriaid presennol ac yn wir bob cwsmer newydd,” meddai Chris. "Mae Gwasanaethau Yswiriant Antur yn froceriaeth fawr yn y Dywysogaeth ac felly mae ganddynt bŵer prynu a grym masnachol sicr a all fod yn ddim ond budd i’n holl gwsmeriaid yn gyffredinol.”

 

Dywedodd ei fod wedi mwynhau pob munud o’r tri deg pum mlynedd diwethaf a’i fod yn bwriadu aros yn y maes ychydig yn hirach yn cynnig gwasanaeth ymgynghori, am ddwy flynedd o leiaf yn fwy na thebyg – erbyn hynny roedd yn teimlo y byddai’n barod i roi’r ffidil yn y to.     

"Gallwn ysgrifennu llyfr am fy mhrofiadau yn ystod y tri deg pum mlynedd diwethaf - yn enwedig gyda rhai aelodau o’r gymuned ffermio sy’n halen y ddaear heb amheuaeth yn fy marn i. Rwy’n deall yn iawn sut y daeth James Herriott yn ysgrifennwr llwyddiannus iawn!"

"Rwyf yn hyderus y bydd y practis yn parhau i dyfu a ffynnu o dan stiwardiaeth newydd Gwasanaethau Yswiriant Antur Cyfyngedig a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, byddai unrhyw ddyn busnes sy’n werth ei halen yn dweud wrthych fod ei fusnes ond cystal â’r bobl sy’n gweithio ynddo - bu’n fraint fawr imi weithio gyda rhai o’r bobl orau rwy’n eu hadnabod ac wrth reswm mae’n bwysig bod pawb sy’n gysylltiedig â’r practis yn gwybod y byddant yn aros yn eu swyddi am lawer blwyddyn arall eto.”

"Yn olaf, mae gennyf neges i’m holl ffrindiau a chleientiaid y cefais y fraint o fod yn gysylltiedig â nhw dros gynifer o flynyddoedd - diolch i chi am eich cefnogaeth, eich ffyddlondeb ac uwchlaw popeth eich cyfeillgarwch."

 

Swyddfa Abertawe Newydd i Yswiriant Antur

119 Walter Road yw'r cyfeiriad i'w nodi ar gyfer eich holl anghenion yswiriant busnes yn y dyfodol. Yma mae Antur yn cynnig rhyngwyneb brocer uniongyrchol naill ai dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy wasanaeth personol yn y cyfeiriad newydd. Mae croeso ichi alw heibio gydag unrhyw broblem yswiriant.

 

Gyda'r holl brif yswirwyr ar gael iddo, mae Antur yn falch o ddatgan ein bod wedi cyd-drafod cyfraddau arbennig gyda Norwich Union, NIG ac AXA. Golyga hyn y gall Antur gynnig trefniadau atebolrwydd hunangyflogedig unigryw i siopau, swyddfeydd, bwytai a thafarndai yn ogystal ag ar gyfer sefydliadau gweithgynhyrchu, hamdden neu ddosbarthu.

 

Mae telerau arbennig ar gyfer cerbydau masnachol, masnachwyr modur ac ar gyfer polisïau fflyd (gyda 4 cerbyd o leiaf) ar gael hefyd drwy ein swyddfa newydd. Felly cysylltwch â ni yno, neu yn unrhyw un o swyddfeydd lleol Antur yng Nghaerfyrddin, Rhydaman neu Aberteifi. Fel arall, os hoffech ymweliad personol gan un o'n gweithredwyr gwerthu byddem yn fwy na bodlon gwneud trefniadau ar gyfer amser sy'n addas i chi.

 

 

 

Antur ar yr Awyr!

Mae Antur newydd gyd-drafod bargen hysbysebu â Radio Sir Gâr. Yn darlledu o ddiwedd mis Ebrill eleni, bydd yr hysbysebion hyn yn rhoi ein gwasanaethau'n uniongyrchol i mewn i gartrefi, ceir a swyddfeydd ein cwsmeriaid yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion ac Abertawe. Gobeithiwn y byddwch yn eu hoffi a chroesawn eich adborth!

 

 

 

Mae Bonws Cyflwyniadol Ail Gar Unigryw Antur ar gael yn awr drwy unrhyw un o'n swyddfeydd.

Rydym bellach yn gallu cyfateb eich bonws cerbyd presennol ar unrhyw gar newydd y gallwch ei brynu (yn destun amodau). Golyga hyn y bydd y rhan fwyaf o'n deiliaid polisi yn dechrau eu hyswiriant newydd gyda bonws MWYAFSWM.

Mae bonysau cyflwyniadol ar gael hefyd, gan amlaf, ar gyfer eich cerbydau masnachol hefyd

 

Cysylltwch am ddyfynbris.

 

Yn ôl i’r brig


0845 3006455
Yswiriant ar eich cyfer chi
www.yswiriantantur.co.uk
www.anturgroup.co.uk
Cael Dyfynbris