bluesky media design
Canghennau Yswiriant Antur
Argymell Ffrind
  Canghennau
  Caerfyrddin
  Rhydaman
  Aberteifi
  Abertawe
  Abergwaun
  Hwlffordd
  Cysylltwch â Ni
 

FSA
Mae Gwasanaethau Yswiriant Antur Cyf yn cael ei awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Yswiriant Modur
Yswiriant Teithio
Yswiriant Eiddo Perchnogion
Yswiriant Cartref
Yswiriant Masnachol

Yswiriant Masnachol

Yswiriant Masnachol

O yswiriant swyddfa i yswiriant siop, yswiriant meddygfa i yswiriant gwesty, mae Yswiriant Antur yn arbenigwyr lleol sy’n darparu yswiriant masnachol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnwys:

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr / Cyhoeddus / Cynnyrch
  • Yswiriant cerbydau masnachol
  • Colli Elw (ymyrraeth â busnes)
  • Costau Cyfreithiol
  • Yswiriant unigolion hunan-gyflogedig
  • Yswiriant ymddiriedolwyr i gronfeydd pensiwn
  • Yswiriant Indemniadau Proffesiynol

Mae ein tîm o froceriaid dynodedig yn ymdrîn yn rheolaidd â phob agwedd o yswiriant masnachol, o fasnachwyr unigol i fusnesau diwydiannol sydd â sawl safle. Mae hyn yn sicrhau bod yr yswiriant a’r gost yn addas ar gyfer llwyddiant eich cwmni.

 

Rydym yn ymfalchïo yn ein harbenigedd yn rhoi cyngor cywir, cyfoes gan roi lefel uchel o wasanaeth personol i'n holl gleientiaid masnachol. Bydd eich rheolwr cyfrif dynodedig yn darparu adolygiadau rheolaidd o'ch holl anghenion yswiriant ynghyd â gwasanaeth cynhwysfawr rheoli risg a chynghori ar hawliadau.

 

Anogir ymweliadau personol ac rydym bob amser yn hyblyg wrth drefnu apwyntiadau, hyd yn oed y tu allan i oriau gwaith arferol os yw hynny'n haws ichi.

 

Cysylltwch â ni ar y ffôn, e-bost neu galwch heibio i un o’n swyddfeydd lleol ledled De Cymru am eich dyfynbris yswiriant masnachol.

 

Yn ôl i’r brig


0845 3006455
Yswiriant ar eich cyfer chi
www.yswiriantantur.co.uk
www.anturgroup.co.uk
Cael Dyfynbris